Croeso adref
Be sy'n eich dal chi nôl rhag dychwelyd i Gymru i newid gyrfa, symud tŷ, neu gychwyn menter newydd? Dyma eich cyfle i gymryd y naid - mae cyfleoedd a chymorth yma! Beth am ddychwelyd i'ch cynefin? #DewchYnÔl
Beth sydd yma i chi?
Gyrfaoedd, Cychwyn Busnes, a Phrofiad Gwaith
Rydym yn cynnig
gyrfaoedd, drwy M-SParc a'n cwmniau denantiaid, yn y sector
Carbon Isel, Ynni a'r Amgylchedd, TGCh a gwyddorau bywyd. Yn aml, bydd gweithwyr yn edrych am sgiliau gan gynnwys gweinyddiaeth, marchnata, ymchwil i'r farchnad, datblygwyr, rhaglenwyr a mwy. Sôn am denantiaid, gallwch archwilio pwy sydd eisoes yn rhan o M-SParc
yma.
Os ydych chi'n chwilio am
swyddfa neu labordy, mae gennym ni rhai. Nid cynnig traddodiadol o 4 wal mohono; mae'r gefnogaeth fusnes a gynigiwn yn rhan o hyn. Mae ein tenantiaid yn cael eu gwneud i deimlo'n rhan o gymuned, ac mae hyn yn bwydo drwodd i'n
digwyddiadau hefyd.
Rydym yn cynnig
cefnogaeth busnes, i gwmniau mewn unrhyw sector sy'n edrych i dyfu, drwy'r
Hwb Menter. Nod M-SParc yw creu amrywiaeth a thwf yn economi'r rhanbarth; pan fydd eich busnes yn tyfu, rydyn ni i gyd yn tyfu!
Mae Prifysgol Bangor ar ein stepen drws, yn darparu cysylltiadau ymchwil rhagorol. Fel myfyriwr graddedig o Brifysgol Bangor, rydych yn gymwys i ymuno â'u cynllun interniaeth, ac mae tenantiaid M-SParc yn defnyddio'r cynllun hwn yn rheolaidd i chwilio am dalent newydd.
Credwn yn wirioneddol y gallwn, trwy weithio gyda'n gilydd, yrru'r economi ranbarthol yn ei blaen, a gall gogledd orllewin Cymru barhau i fod yn fyd-eang o ran arloesi, entrepreneuriaeth ac ymchwil. Gellir gwneud hyn gydag ac ar gyfer pobl leol, gan ddefnyddio'r Gymraeg a darparu sgiliau a chyfleoedd i bobl ifanc aros yn eu rhanbarthau, neu i'r rhai sydd wedi symud i ffwrdd ddychwelyd a sefydlu eu busnesau yma.
Pwy sy'n dychwelyd?
Rydym wedi cael ymateb gwych gan bobl sy'n edrych i ddychwelyd. Os ydych chi'n gyflogwr ac yn recriwtio, mae gennym bobl fedrus mewn sectorau gan gynnwys:
- Ymgynghorwyr TG
- Rheolwyr Prosiect
- Llysgenhadon STEM
- Dylunwyr UX / UI
- Hyfforddwyr H&S
- Technegwyr
Cysylltwch os ydych chi'n gwmni lleol ac angen cefnogaeth recriwtio.
Rhowch yn ôl
Os ydych chi am roi yn ôl, yna rydyn ni'n croesawu hyn hefyd! Rydym yn cychwyn rhwydwaith
angel M-SParc, lle gallwch fuddsoddi rhwng £1k a £ 150k mewn busnesau newydd lleol. I ddod yn rhan o'r rhwydwaith hwn, cofrestrwch eich diddordeb gan ddefnyddio'r ffurflen isod. Mae busnesau hefyd wastad yn chwilio am fentoriaid, felly os hoffech roi eich amser, mae croeso i chi nodi hyn.
Chi
Digon amdanon ni - pwy wyt ti? Gadewch inni wybod sut y gallwn eich helpu chi, yr hyn rydych chi'n edrych amdano, ac ym mha ffordd y gallwn ni weithio gyda'n gilydd.